Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
Main Content Area

Ail Hanner y 1800au

Ym 1883, cynigiodd Solomon Andrews, un o brif entrepreneuriaid Fictoraidd Caerdydd gynllun ar gyfer marchnad newydd a oedd yn cynnwys bloc o siopau a swyddfeydd ar ffrynt Heol Santes Fair a neuadd farchnad newydd tu ôl. Ni chafodd Andrews fwy o lwyddiant na’r peiriannydd bwrdeistrefol yn y gorffennol, ond ymddengys bod gwrthod y cynllun gan y gorfforaeth wedi arwain yn uniongyrchol at adeiladu Adeiladau Marchnad ar Heol Eglwys Fair. Ym 1884 cymrodd brydles ar gyfer ffrynt y stryd gyfan, gan gynnwys yr orsaf heddlu, mynedfa marchnad Edward Haycock a’r ddau fwthyn rhyngddynt. Yna adeiladodd adeilad anferth newydd â phedwar llawr a oedd am beth amser yn cysgodi adeiladau cyfagos, hyd i James Howells ymestyn ei siop ar yr un raddfa.

Agor Marchnad Ganolog Caerdydd - 1891

Mabwysiadwyd cynllun ar gyfer Marchnad Caerdydd ym 1890 a chafodd marchnad Haycock 1835 ei chau er mwyn ei dymchwel. Ym Mis Awst y flwyddyn honno gosodwyd carreg goffa ar gyfer y farchnad newydd a agorwyd yn swyddogol ar 8 Mai 1891.

Cynlluniwyd y farchnad ganolog newydd yn eithaf tebyg i farchnad 1835, heblaw bod mynedfa Heol Santes Fair wedi cael ei ddarparu gan y porth bwaog dan Adeiladau Marchnad. Cynlluniwyd y farchnad gan y peiriannydd bwrdeistrefol William Harpur, ac roedd yn cynnwys sied haearn gyrru mawr o wal gefn yr Adeiladau Marchnad i Stryd Trinity. 

Roedd gan y brif farchnad stondinau bob ochr ac ar ddwy ochr y pedair eil, â balconi ar bedair ochr y neuadd. Darparwyd 349 o stondinau yn y cynllun gwreiddiol, yn amrywio o gownteri agored syml i lefydd cadw. Gwnaethpwyd ymdrech pendant i roi tenantiaid gyda’i gilydd yn ôl eu masnach i gyfyngu eitemau heb fod yn fwyd i’r balconi mewn ymdrech i sicrhau bod siopwyr yn mentro i fyny’r grisiau. Darparwyd swyddfa ddyrchafedig ar gyfer yr arolygydd marchnad ar y llawr isaf dan dŵr cloc.

Agorwyd y farchnad ganolog ar 8 Mai 1891 gan yr Arglwydd Faeres ar y pryd, Ardalyddes Bute. Gellir gweld plac i goffáu’r achlysur wrth y fynedfa ar Heol y Drindod hyd heddiw. 

ID: 6 Adolygwyd: 28/2/2008
Rhoi sylwadau am y dudalen hon

Project Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Heol y Drindod, Caerdydd, CF10 1BH
Ffôn: (+44) 029 2035 3266 | enquiries@cardiff-market.co.uk powered by COMS from Square Solutions